Yn gyffredinol, pobl dduon sy'n byw neu'n dod o Gymru yw'r Cymry Duon. Mae'r term yn cynnwys pobl sy'n enedigol o Gymru sydd â thras neu linach ddu (mae hyn yn cynnwys pobl ddu Affricanaidd, Garibïaidd, ac o rannau eraill o'r byd); ac unigolion duon sydd wedi ymfudo i Gymru. Mae tua 1% o boblogaeth Cymru yn ddu, yn ôl cyfrifiad 2011.[1]. Mae Cymry Duon adnabyddus sy'n siarad Cymraeg yn cynnwys Kizzy Crawford a Ben Cabango.